Noddwyr a Phartneriaid y Gweithrediad

Noddwyr y Gweithrediad

Ariennir Gweithrediad Peilot Porth Môr Iwerddon gan gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014 – 2020, sef rhaglen drawsffiniol sy'n buddsoddi yn llesiant economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cyffredinol Cymru ac Iwerddon.

Partneriaid yr Ymgyrch

Partneriaeth drawsffiniol rhwng Prifysgol Bangor (y Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol, CAMS) a Bord Iascaigh Mhara (BIM) yw'r Gweithrediad. Datblygwyd y Gweithrediad gan Brifysgol Bangor a BIM yn Iwerddon yn dilyn rhyngweithio agos â BBaChau pysgod cregyn ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol eraill.

Mae gan BIM a CAMS brofiad helaeth o weithio gyda'r diwydiant. BIM yw asiantaeth datblygu dyframaethu Iwerddon ac mae ganddi gysylltiadau cryf â BBaChau ac is-adran hyfforddi sefydledig sy'n gysylltiedig â sefydliadau addysg bellach ac sy'n cynnwys y Ganolfan Datblygu Bwyd Môr yn Clonakilty, a sefydlwyd i helpu BBaChau gael gafael ar dechnolegau newydd. Ym Mhrifysgol Bangor, mae CAMS wedi integreiddio gwaith gyda'r diwydiant mewn sawl prosiect diweddar, er enghraifft prosiect SEACAMS, a ariennir mewn modd strwythurol ac sydd wedi ymrwymo i helpu busnesau yng Nghymru.