ISPP on Twitter

Tweets by ISPP_EU

Newyddion

Awst 2018

29/08/18 Cynhadledd Diwedd Prosiect y CPPMI

Cynhaliwyd cyfarfod olaf y prosiect yng Ngwesty’r Red Cow Moran yn Nulyn.  Gwahoddwyd rhanddeiliaid o ddwy ochr i Fôr Iwerddon i’r digwyddiad er mwyn clywed cyflwyniadau gan staff y prosiect o Brifysgol Bangor a Bord Iascaigh Mhara, a chymryd rhan mewn trafodaeth banel.  Cadeiriwyd y tri sesiwn cyntaf gan Ben Dallaghan o BIM, a ddechreuodd y trafodaethau drwy gofio ein ffrind yn y diwydiant, Richie Flynn a fu farw yn ddiweddar.  Cadeiriwyd sesiwn olaf y panel gan Terence O’Carroll, BIM.

 

Sesiwn 1 – Cyflwyniadau Rhagarweiniol

  • Cyflwyno Cynllun Peilot Porth Môr Iwerddon
  • CPPMI – enghraifft o gydweithrediad trawsffiniol
  • Effaith Prosiect CPPMI ar gyfer y diwydiant cregyn gleision sydd ar waelod y môr
  • Casglu hadau cregyn gleision ym Mae Bantry

Sesiwn 2 – Cyflwyniadau Gwyddonol

  • Canlyniadau gwaith monitro’r cregyn gleision (Prifysgol Bangor)
  • Geneteg larfâu cregyn deuglawr
  • Astudiaethau larfaol a drôg – Môr Iwerddon
  • Lle mae’r larfâu pysgod cregyn yn mynd?

Sesiwn 3 – Porthol a Llyfr Gweithgareddau

  • Llyfr Gweithgareddau – Effaith a Dosbarthiad
  • Porthol ac AP CPPMI

Sesiwn 4 – Beth sy’n digwydd nesaf?   Trafodaeth Banel

  • CPPMI a’r Dyfodol – prosiectau ymchwil/diwydiant posibl
  • Dyfodol y diwydiant cregyn gleision yng Nghymru
  • Rhywogaethau estron goresgynnol
  • Arolygu / tracio
Cafodd y digwyddiad ei gofnodi mewn gwir amser gan Laura Sorvala (Auralab – www.auralab.co.uk), a gofnododd pob sesiwn yn fywiog fel yr oedd yn digwydd.

 

Rydym wrth ein boddau i fod y prosiect cyntaf ym Mhrifysgol Bangor i dderbyn Marc Siarter “Prosiect Ymrwymedig i Gynaliadwyedd” y Labordy Cynaliadwyedd.

Darllenwch am yr holl weithgareddau yma mewn astudiaeth achos diweddar a ysgrifennwyd gan Gwen Holland, Swyddog TT, Labordy Cynaliadwyedd.

Gorffennaf 2018

11/07/18 Llyfr gweithgareddau a lansiwyd yng Nghymru

Bu gwir gydweithrediad trawsffiniol rhwng partneriaid CPPMI pan deithiodd Amy a Niamh o BIM, ynghyd â John Joyce y dyluniwr llyfrau, i Gymru er mwyn lansio’r Llyfr Gweithgareddau gyda staff prosiect Bangor.

I gyd-fynd â’r llyfr, roedd amrediad o weithgareddau ar gyfer y plant ac roedden nhw i gyd wedi cael eu swyno a’u cyfareddu wrth weld cregyn gleision byw a defnyddio meicrosgop.

Diolch yn fawr iawn i staff a disgyblion Ysgol Treffos, Ysgol Tregarth ac Ysgol Porth y Felin – gwnaeth pawb ei fwynhau!

Ysgol Tregarth

Ysgol Porth Y Felin

Treffos School

 

02/07/18 CPPMI @Seafest 2018

Roedd Llyfr Gweithgareddau Mussel Power yn boblogaidd iawn yn Seafest 2018.

 

Mehefin 2018

28/06/18 Llyfr Gweithgareddau a lansiwyd yn yr Iwerddon

Ymunodd John Joyce, darluniwr y llyfr gweithgareddau ‘Mussel Power’ ag Amy a Niamh o BIM yn llyfrgell dlr LexIcon yn Dun Laoghaire.  Roedd y plant wedi cael eu cyfareddu gyda’i ddarluniau rhyfeddol.

27/06/18 Llyfr Gweithgareddau – YN SYTH O’R WASG!

Wedi’i ddatblygu ar y cyd gan BIM a Phrifysgol Bangor, mae ‘Mussel Power’ yn tynnu sylw at fywyd cyfrinachol y gragen las.  O bersbectif Gwyddedig a Chymreig, mae’r llyfr gweithgareddau hwn yn mynd â’r darllenwr ar siwrnai ryngweithiol o’r gwely had i’r plât, gan ddisgrifio sut y mae’r diwydiant cregyn gleision yn gweithio.  Mewn byd o ddatblygiadau cynyddol mewn technoleg, bydd y darllenwr yn gallu cael gweld yr atebion i’r cwisiau sydd yn y llyfr drwy fewngofnodi ar ap a gwefan porthol Môr Iwerddon pan fydd yn dod yn fyw ym mis Awst 2018.

26/06/18 Rhyddhau Drogau

Y mis hwn mae Bangor a BIM wedi rhyddhau drogau a chafwyd rhai llwybrau diddorol iawn.

18/06/18 System Lein Hir newydd ar gyfer Cregyn Gleision

Mae ein system lein hir arbrofol newydd wedi cael ei defnyddio o’r diwedd – roedd y tywydd braidd yn anffafriol!  Fodd bynnag, gwnaethom lwyddo o’r diwedd i gael yr holl angorau i mewn a gosod y leiniau blaen.  Mae amseroedd cyffrous o’n blaenau oherwydd ein bod yn gobeithio y bydd cyfradd setlo y cregyn gleision mor uchel eleni ag yr oedd y llynedd.   Diolch i AquaMoor a Leask Marine a oedd yn cyfrannu at ddyluniad a logisteg y system newydd.

 

08/06/18 Diwrnod Cefnforoedd y Byd

Beth am ddathlu’r Gragen Las fechan, ond grymus!

Mai 2018

31/05/18 Cafodd y Sustainable Seafood Garden ei enwi fel prif enillydd yn Bloom 2018

Mae gardd sy’n adrodd y stori ynglŷn â sut mae bwyd môr o’r Iwerddon yn cael ei gynhyrchu yn gynaliadwy er mwyn helpu i warchod stociau pysgod, gwarchod yr amgylchedd morol a datblygu a chynnal cymunedau arfordirol sy’n ddibynnol ar bysgodfeydd yn yr Iwerddon, wedi cael ei chyhoeddi fel prif enillydd Bloom 2018.

18/05/18 Bore Coffi Amlieithog

Cychwyn eithaf da Ddydd Gwener wrth i CPPMI ymuno yn y ‘Bore Coffi Amlieithog’ sy’n hyrwyddo ein hamrywiaeth, sef yr iaith Gymraeg.  Mae’n hwyl dysgu ychydig o wahanol ymadroddion a mwynhau rhannu rhywfaint o fwyd o wledydd amrywiol.

09/05/18 Diwrnod Ewrop

Roedd yn wych i dîm CPPMI gwrdd â phrosiectau eraill a gyllidwyd gan yr UE ym Mhrifysgol Bangor a dathlu Diwrnod Ewrop.  Unwaith eto, roedd yn wych gweld un o’r rhanddeiliaid yn mynychu’r digwyddiad yn ogystal â’n His-ganghellor Yr Athro John Hughes.

08/05/18 Defnyddio Bwiau Drifft

Ar ôl i BIM sylwi bod Larfâu D yn ymddangos ym Mae Wexford, mis Mai oedd y mis i ryddhau’r bwiau drifft i fonitro ceryntau.  Rhyddhawyd un gan Fangor wrth ymyl Ynys Seiriol ac mae BIM wedi rhyddhau dau wrth ymyl Harbwr Castlemaine a Bae Dingle.

Ebrill 2018

10/04/18 System Lein Hir Newydd

Diwrnod gwych gydag AquaMoor a oedd yn llwyddiannus wrth dendro am osod system lein hir newydd ar gyfer cregyn gleision (Bangor).  Amseroedd cyffrous o’n blaenau ar ôl bore o drafodaethau a ddilynwyd gan brynhawn ar y Mare Gratia yn trafod logisteg, llanwau a thywydd!

Mawrth 2018

10/03/18 Rhaffau Cregyn Gleision a Meicrosgopau

Cymerwyd rhan gan Dîm CPPMI Bangor yn nigwyddiad blynyddol y ‘Bydoedd Cudd’ ym Mhrifysgol Bangor eleni.  Digwyddiad gwyddorau a oedd ar agor i aelodau o’r cyhoedd.  Cynhyrchodd staff y prosiect CPPMI arddangosfa rhyngweithiol eang a oedd yn cynnwys arddangosfa fyw o gregyn gleision ar raff mewn tanc acwariwm silindrig (a ddarparwyd gan BIM), meicrosgopau ar gyfer y cyhoedd i adnabod plancton o samplau a gasglwyd y bore hwnnw.  Roedd lluniau fideo o’r cregyn gleision yn setlo yn llwyddiannus ar y rhaffau o 2017 a helfa drysor sonar sgan o’r ochr ar gyfer plant a phlant mawr fel ei gilydd (a ddarparwyd gan BIM).

Gyda thros 1,300 o ymwelwyr, hwn oedd y Digwyddiad Bydoedd Cudd mwyaf a’r gorau hyd yma yn 2018.  Roedd yn wych cael gweld un o’n rhanddeiliaid yn ymweld â ni yn y digwyddiad hefyd.

Drwy gydol y dydd, cawsom rhai plant rhyfeddol yn ymweld â’n stondin ni ac er eu bod mor ifanc, roedden nhw’n gallu adnabod yr hyn yr oedden nhw’n ei weld drwy’r meicrosgop o’r llyfr adnabod plancton.

Diwrnod ysbrydoledig a chalonogol ar gyfer holl aelodau tîm CPPMI.

 

06/03/18 Cyfarfod Rhanddeiliaid CPPMI

Bore cyffrous gyda’n Rhanddeiliaid Gwyddelig a Chymreig ym Mangor. Rhoddwyd cyfres o gyflwyniadau gan dimau BIM a CPPMI Bangor fel ei gilydd.  Roedd trafodaethau a rhannu gwybodaeth o sesiwn y bore yn yr ystafell gyfarfod yn parhau yn y prynhawn tra ein bod allan ar y Mare Gratia yn gweld y gwelyau cregyn gleision drosom ein hunain.

Chwefror 2018

08/02/18 PCDA

Mae BIM hefyd wedi bod yn Swydd Kerry yn defnyddio’r PCDA er mwyn casglu data hydrodynamig yn eu safle astudiaeth achos yn Cromane.

 

07/02/18 Cydweithrediad trawsffiniol

Cydweithrediad ar waith gyda Nicholas Chopin (BIM) yn ymweld â Phrifysgol Bangor i dreialu’r bwiau drifft yn Afon Menai a hyfforddi tîm Bangor ynglŷn â sut i’w defnyddio.  Gallai’r tywydd fod wedi bod ychydig yn gynhesach ond bu’r defnydd ohonyn nhw yn llwyddiannus. Yn ôl yng nghynhesrwydd Canolfan Forol Cymru, derbyniodd y tîm rhywfaint o hyfforddiant SGDd.

Ionarw 2018

12/01/18 Amser am gregyn gleision!

Mae BIM wedi dechrau trefnu eu pecynnau samplu larfâu cregyn gleision i’w hanfon at y pedwar lleoliad ar arfordir yr Iwerddon.

 

 

Rhagfyr 2017

Cylchlythyr BIM

Hydref 2017

13/10/17
Diwrnod hir ond llwyddiannus, gyda'n partneriaid yn y diwydiant allan ar Afon Menai yn casglu leiniau hir y cregyn gleision. Llawer iawn o aneddiadau cregyn gleision ar y rhaffau. Y cyfan sydd angen ei wneud nawr yw cyfrif y cregyn gleision!

 

 

10/10/17 Conwy Mussels ar y Radio

Medi 2017

19/09/17 Tîm Prifysgol Bangor yn Archwilio'r Leiniau Hir

Yn ffodus, roedd yn ddiwrnod heulog a llonydd i fynd allan i archwilio'r aneddiadau cregyn gleision ar y leiniau hir.

Roedd pawb yn gyffro i gyd o weld bod llawer iawn o aneddiadau cregyn gleision ar y rhaff.

 

Awst 2017

07/08/17 ymweliad gan Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Yn ystod ei ymweliad â Phrifysgol Bangor, pwysleisiodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, bwysigrwydd parhau i ffurfio cysylltiadau â phartneriaid Ewropeaidd.

 

Gorffennaf 2017

13/07/17 Ymweliad gan Lysgennad Iwerddon

Roedd yn bleser gennym arddangos prosiect Cynllun Peilot Porth Môr Iwerddon i Lysgennad Iwerddon ar ei ymweliad â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar

 

Swyddi Gwag

Mae BIM yn recriwtio ar gyfer dwy swydd o fewn prosiect Cynllun Peilot Porth Môr Iwerddon ar hyn o bryd.

Swyddog Prosiect Cynllun Peilot Porth Môr Iwerddon dyddiad cau 28.07.17
Cynorthwyydd Technegol Cynllun Peilot Porth Môr Iwerddon dyddiad cau 28.07.17
Hefyd, ceir dwy swydd wag arall mewn prosiectau cysylltiedig eraill rhwng Cymru ac Iwerddon:
Swyddog Prosiect BlueFish dyddiad cau 28.07.17
Swyddog Prosiect Bucanier dyddiad cau 28.07.17
Os hoffech ragor o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni uchod i weld y disgrifiad swydd llawn, neu cysylltwch â BIM yn uniongyrchol.

 

Mehefin 2017

Mae rhaffau newydd ar gyfer arbrofi ag aneddiadau wedi cael eu rhoi ar waith yn Bantry Bay – James Courcey a Finnian O'Driscoll

Mai 2017

31/05/17 Leiniau hir yn cael eu llwytho ar afon Seiont, gyda chymorth y Tywysog Madog, yn barod i gael eu rhoi ar waith yn Afon Menai. Mae ffeiliau cyfryngau ar aneddiadau cregyn gleision wedi cael eu hatodi.

 

09/05/17 Gwaith arolygu Afon Menai. Mae'r gwaith o samplu plancton yn Afon Menai bellach yn mynd rhagddo, ac am dywydd gwych i fod allan ar y dŵr!

 

Ebrill 2017

16/04/17 Y cam cyntaf yn y broses o roi'r system leiniau hir ar waith oedd gwasanaethu'r bwiau marcio a'u gosod yn ôl yn Afon Menai

 

Mawrth 2017

17/03/17 Tîm gwyddonol Bangor allan yn treialu rhwydi plancton newydd – nid oedd y tywydd cystal!

20/03/17 – Diwrnod lansio gweithrediad Cynllun Peilot Porth Môr Iwerddon. Rhagor o fanylion i ddilyn.
Edrychwch ar ein ffrwd Twitter yma
17/03/17 - Canfod ffynonellau cynaliadwy o gregyn gleision ym Môr Iwerddon

 

Chwefror 2017

21/02/17 – I weld manylion llawn Rhaglen Iwerddon Cymru, sy'n amlinellu prosiect Cynllun Peilot Porth Môr Iwerddon, cliciwch yma
21/02/17 - Prosiect newydd yr Undeb Ewropeaidd i helpu i gynyddu maint y diwydiant pysgodfeydd yng Nghymru ac Iwerddon
21 /02/17 – New EU project to help grow the fisheries industry in Wales and Ireland
21/02/17- Mae Cynllun Peilot Porth Môr Iwerddon yn mynd rhagddo.