Digwyddiadau

Cynllun Peilot Porth Môr Iwerddon – Lansio'r Prosiect

Lansiwyd Cynllun Peilot Porth Môr Iwerddon yn y Gweithdy diweddar ar Gregyn Gleision a Dyfir ar Waelod y Môr a gynhaliwyd yn Wexford ar 20.03.17 ac a drefnwyd gan Bord Isacaigh Mhara (BIM). Roedd cynrychiolwyr y diwydiant o Gymru ac Iwerddon yn bresennol.

Hefyd yn bresennol roedd cynrychiolwyr o Comité Régional des Pêches de Basse Normandie (CRPBN) a roddodd gyflwyniad ar eu gweithgareddau, y problemau recriwtio sydd ganddynt ar hyn o bryd mewn perthynas â grawn cregyn gleision, a throsolwg o Brosiect DILEMES (model tracio larfâu cregyn gleision). Trafododd Ymchwil Forol Wageningen o Yerseke, yr Iseldiroedd, ddynameg poblogaeth cregyn gleision islanw a'i heffaith ar amaethu.