Croeso / Welcome / Fáilte

Nod Cynllun Peilot Porth Môr Iwerddon yw profi dichonoldeb prosiect mwy (Porth Môr Iwerddon) a fydd yn darparu llwyfan sy'n gallu bodloni'r gofyniad am lif gwybodaeth er mwyn hybu twf ym maes pysgodfeydd a dyframaethu.

Bydd y prosiect hwn yn defnyddio Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) er mwyn helpu'r diwydiant i gael gafael ar wybodaeth ac ymchwil berthnasol am larfâu pysgod cregyn ifanc a’u hanheddiad ar wely’r môr. Bydd yn ymchwilio i leoliad safleoedd casglu grawn posibl a dichonoldeb defnyddio casglwyr grawn o fewn ardal yr astudiaeth.

Bydd hyn yn ehangu dealltwriaeth o symudiad larfâu pysgod cregyn ym Môr Iwerddon a'r cyffiniau, ac yna'n arwain at bennu patrymau anheddu larfâu lle y cânt eu diffinio fel ‘grawn’. Mae hwn yn adnodd a rennir dros Fôr Iwerddon sy'n croesi ffiniau rhanbarthol a chenedlaethol ac sy'n cael effaith economaidd sylweddol mewn rhan o ddiwydiant sy'n werth tua €254m.