Amcanion y Prosiect

Bydd Prifysgol Bangor a Bord Iascaigh Mhara (BIM) yn dwyn sectorau pysgod cregyn Cymru ac Iwerddon ynghyd gyda'r nod o dyfu'r sector pysgod cregyn drwy ganolbwyntio ar astudiaeth o anheddu pysgod cregyn ifanc.

Bydd cam peilot y prosiect yn cynnwys porth gwe ar gyfer Cynllun Peilot Porth Môr Iwerddon. Cysyniad cyffredinol y porth fydd galluogi'r diwydiant i gael gafael ar y wyddoniaeth orau sydd ar gael yn y maes hwn. Caiff yr adnodd hwn ei ddatblygu mewn cydweithrediad agos iawn â'r diwydiant, sefydliadau llywodraethol ac anllywodraethol a rheoleiddwyr drwy'r clwstwr pysgod cregyn a bydd yn cynnwys gwybodaeth am gydsyniadau a thrwyddedau ar gyfer casglu a hau grawn.

Y nod yw sicrhau bod gwerthusiad terfynol y prosiect yn llwyddiannus a'i fod yn arwain at brosiect mwy – Porth Môr Iwerddon.

Pecynnau Gwaith y Prosiect

Ceir pum pecyn gwaith sy'n cwmpasu'r canlynol:

PG 1 Rheoli Cynllun Peilot Porth Môr Iwerddon – dan arweiniad Prifysgol Bangor
PG 2 Ymgysylltu â BBaChau a rhanddeiliaid – dan arweiniad BIM
PG 3 Cofnodi a phennu budd economaidd yn erbyn dangosyddion allbwn – dan arweiniad Prifysgol Bangor
PG 4 Monitro larfâu grawn pysgod cregyn a llunio adnodd ar-lein ar gyfer y diwydiant pysgod cregyn – dan arweiniad Prifysgol Bangor a BIM ar y cyd
PG 5 Gwerthuso Cynllun Peilot Porth Môr Iwerddon – dan arweiniad Prifysgol Bangor

Dadansoddiad o Becyn Gwaith 4

A. Modelu symudiad larfâu pysgod cregyn ym Môr Iwerddon a'r Môr Celtaidd er mwyn pennu ardaloedd posibl eu haneddiadau.  Dan arweiniad Prifysgol Bangor

Bydd y gweithgaredd hwn yn adeiladu ar waith blaenorol o dan SUSFISH ac yn ffurfio modelau cefnfor eglurder uchel o'r radd flaenaf sydd wedi'u dilysu'n llawn. Bydd y modelau'n cwmpasu amrywiaeth o raddfeydd gofodol a thymhorol. Bydd cohortau o ronynnau yn cael eu cludo o dan amodau eigionegol ac ymddygiadol realistig i ranbarthau suddo tebygol.  Bydd yr holl fodelau'n bwydo gwybodaeth sy'n hanfodol ar gyfer helpu i wneud penderfyniadau, er enghraifft ble i samplu larfâu a ble y gellid gosod casglwyr grawn.  Defnyddir gwybodaeth hefyd i lywio'r adnoddau GIS ar-lein a'r ap symudol.

B. Monitro'r larfâu pysgod cregyn er mwyn pennu patrymau silio. Dan arweiniad Prifysgol Bangor a BIM ar y cyd

Bydd y gweithgaredd hwn yn cynnwys monitro larfâu pysgod cregyn er mwyn ceisio pennu'r patrymau silio ac anheddu.  Yn dilyn digwyddiadau silio, cymerir samplau o larfâu mewn lleoliadau dethol er mwyn asesu'n weledol a thrwy dechnegau moleciwlaidd nifer unrhyw rywogaethau sy'n bresennol yn y golofn ddŵr a faint o wahanol rywogaethau sy'n bresennol ar adeg samplu.  Cynhelir y gwaith samplu gan ddefnyddio rhwydi plancton a, lle y bo modd, o leoliadau ar y lan neu gan ddefnyddio llongau'r diwydiant.  Defnyddir gwybodaeth er mwyn helpu i ddilysu'r modelau, a bydd hyn yn rhoi rhywfaint o wybodaeth am gynaliadwyedd. 

C. Defnyddio casglwyr grawn ac asesu cydnerthedd y grawn. O dan arweiniad BIM

Bydd y gweithgaredd hwn yn treialu gwahanol gasglwyr grawn wedi'u lleoli mewn lleoliadau dethol yn y rhanbarth trawsffiniol, ac fe'i hysgogir gan wybodaeth hanesyddol neu drwy allbynnau o'r modelau 3D.  Bydd casglwyr grawn yn cael eu monitro a'u hasesu o ran faint o unrhyw rywogaeth benodol a faint o rywogaethau eraill sy'n bresennol ar yr un pryd.  Bydd astudiaethau casglu grawn yn ymchwilio i wahanol ddyluniadau casglwyr. Monitro gwahanol swbstradau, lle y bo hynny'n ymarferol, a gwahanol aneddiadau grawn.  Bydd y gweithgaredd hwn yn cynnwys cynnal rhai astudiaethau genetig cyfyngedig er mwyn asesu gwahanol rywogaethau sy'n bresennol ar y casglwyr grawn a ph'un a oes unrhyw wahaniaethau genetig rhwng stociau yng Nghymru ac Iwerddon.  Byddai canlyniadau o'r gweithgaredd hwn yn cysylltu â 4d o ran asesu cynaliadwyedd a 4e, yr adnodd ar-lein.

4d. Asesu cynaliadwyedd pysgod cregyn. Dan arweiniad Prifysgol Bangor

Bydd y gweithgaredd hwn yn darparu'r llinell sylfaen ar gyfer astudiaethau pellach.  Drwy gasglu gwybodaeth mewn perthynas â larfâu a grawn, yn ogystal â gwybodaeth am ardaloedd lle y ceir cregyn gleision, mae'n bosibl y gellir asesu biomas rhywogaethau ym Môr Iwerddon, tarddiad grawn ac, o bosibl, unrhyw wahaniaethau genetig rhwng rhywogaethau yng Nghymru ac Iwerddon.  Caiff hyn ei asesu ar lefel sylfaenol iawn a bydd yn cynnwys rhywfaint o ffactoreiddio er mwyn ystyried marwoldeb ar adeg anheddu a hau o bosibl. Yn bwysig ddigon, bydd y gweithgaredd hwn hefyd yn cymharu'r gwahaniaethau rhwng Cymru ac Iwerddon o ran monitro larfâu ac aneddiadau a chydsyniad i gasglu grawn.  Bydd prif ganfyddiadau'r gweithgaredd hwn yn cael eu bwydo i mewn i'r adnodd ar-lein, sef gweithgaredd 4e, er mwyn helpu i lywio'r broses o bennu'r lleoliadau gorau posibl i bysgota am rawn.